Cefnogi Trydydd Sector Cymru

Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Nod y rhwydwaith yw galluogi’r trydydd sector a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gyfrannu’n llawn at lesiant unigolion a chymunedau, yn awr ac at y dyfodol.

Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Ceir ynddo’r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Rydym yn gweithio gyda dinasyddion, gwirfoddolwyr a grwpiau trydydd sector i ganfod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ac i weithredu yn unol â hynny. Mae ein gweithgareddau craidd i gryfhau’r trydydd sector a gwirfoddoli yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Galluogi a chefnogi
  • Bod yn gatalydd
  • Ymgysylltu a dylanwadu
  • I gyflawni nod y rhwydwaith, rydym yn cydweithio â phartneriaid allweddol eraill yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus, byd busnes, ymchwil a chyllidwyr.

Mae gennym bedair colofn o weithgaredd sy’n llunio’r hyn rydym yn ei gynnig, dyma’r pedair colofn:

  • Gwirfoddoli
  • Llywodraethu da
  • Cyllid cynaliadwy
  • Ymgysylltu a dylanwadu

Mae ein gwaith yn canolbwyntio’n fras ar y themâu cyffredin canlynol:

  • Gwybodaeth a chyngor
  • Dysgu a datblygu
  • Rhwydweithio a chyfathrebu
  • Siapio, dylanwadu ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol a chydnerthedd y sector
  • Codi proffil y sector