Dogfennau Llywodraethol

Mae FLVC wedi darparu’r enghreifftiau hyn o Ddogfennau Llywodraethol Enghreifftiol i Fudiadau Gwirfoddol, Elusennau a Mentrau Cymdeithasol fel bod gan bobl ddewis wrth law o ba ddogfen sydd fwyaf addas iddyn nhw. Ond, does dim math beth â dogfen lywodraethol enghreifftiol sy’n berffaith i bawb. Mae gan bron i bawb anghenion gwahanol ac, yn ddelfrydol, dylai dogfennau gael eu llunio ar wahân – o fewn ffiniau’r gyfraith ac wrth gymryd safonau proffesiynol cadarn i ystyriaeth – er mwyn cyd-fynd ag anghenion pob mudiad. Yn fwy na hynny, fel arfer wrth lunio neu addasu dogfen lywodraethol, hyd yn oed un syml, dydi hi ddim yn ddoeth ymgymryd â’r gwaith heb geisio cyngor proffesiynol, gan fod rhai pethau y mae angen eu gwybod a’u deall os ydy mudiad am gael dogfen sy’n wirioneddol addas a defnyddiol. Felly, cysylltwch ac ymgynghorwch gyda FLVC cyn dechrau arni gyda’r dasg hon. Mae’r dogfennau isod ar ffurf Microsoft Word. Os hoffech chi’r dogfennau ar ffurf arall cysylltwch a ni.