Grantiau Cyfredol
I dderbyn y newyddion diweddaraf am ein cronfeydd grant, tanysgrifiwch yma.
Grantiau a Arweinir Gan Ieuenctid FLVC
Mae grantiau gwerth £500 a £1,000 ar gael i bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a arweinir gan yr ieuenctid.
Mae’n rhaid defnyddio’r grant ar gyfer gweithgaredd gwirfoddol mewn prosiect a arweinir gan yr ieuenctid yn Sir y Fflint. Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o bobl sy’n gysylltiedig fod rhwng 14-25 oed. Gall y prosiectau redeg tan Chwefror 28ain 2022.
Hyd heddiw mae llawer o brosiectau gwahanol wedi’u hariannu ac rydym yn croesawu ceisiadau sy’n cefnogi un neu fwy o nodau canlynol ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)’:
1. Cymru lewyrchus – trechu tlodi a gwella cyfleoedd bywyd
2. Cymru gydnerth – paratoi a chynllunio ar gyfer y dyfodol
3. Cymru sy’n fwy cyfartal – rhoi cyfle cyfartal i bawb beth bynnag fo’u cefndir
4. Gymru Iachach – annog ffyrdd iach o fyw
5. Gymru o Gymunedau Cydlynys – helpu i greu cymunedau hapusach
6. Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu – creu cyfleoedd yng Nghymru a dathlu’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig
7. Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang – edrych ar ôl yr amgylchedd ac ystyried eraill
Dylai prosiectau hefyd ystyried pa mor gynaliadwy ydyn nhw; sut allan nhw gynnwys y bobl rheiny maen nhw’n ceisio eu helpu yn eu prosiect ac a ydyn nhw’n gallu cysylltu gydag unrhyw brosiectau tebyg yn yr ardal.
Os oes arnoch chi angen ffurflen gais neu unrhyw gyngor neu gymorth gyda llenwi’r ffurflen, cysylltwch: E-bost: Heather.Hicks@flvc.rc1.amityweb.co.uk Rhif ffôn: 01352 744004.


English