Iechyd a Llesiant
Mae’r sectorau gwirfoddol a chymunedol yn allweddol i waith hyrwyddo iechyd, cynhwysiad cymdeithasol a llesiant. Dydy darparu gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a hyrwyddo iechyd ddim yn unig yn dod o dan gyfrifoldeb gwasanaethau statudol. Mae gogyn hefyd am bartneriaeth gadarn a chyd-drefnus rhwnh y GIG, cynghorau Sir a mudiadau’r sectorau gwirfoddol a phreifat.
Mae trosglwyddo gwasanaethau iechyd o ysbytai llym i wasanaethau cymunedol wedi rhoi cyfleoedd newydd i’r sector gwirfoddol
Ar draws gogledd Cymru, mae mudiadau lleol y trydydd sector yn hanfodol gan eu bod nhw’n darparu llawer o wasanaethau sy’n hawdd manteision arnyn nhw, sy’n addas ac yn ataliol. Mae’r gwasanaethau hyn yn galluogi unigolion i barhau i fod yn annibynnol yn y gymuned. Mae’r sector hefyd yn arwyddocaol wrth gefnogi a gwella sut mae’n darparu neu yn adfer gwasanaethau gyda’r bwriad o symud person o fod mewn argyfwny i allu ymdopi a bod yn annibynnol yn y cartref.
Mae’r sector gwirfoddol yn aml yn ymgynghori gyda phobl feu eu bod nhw’n gallu cymryd rhan yn y broses llunio gwasanaethu er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd a’u gofynion. Mae hefyd yn sicrhau eu bod nhw’n gallu derbyn gwasanaethau hyblyg sy’n ymateb i’w gofynion yn agos i’w cartref.
Ym aml, gall grwpiau cymunedol gysylltu gyda phoble fyddai ddim yn teimlo’n gyfforddus fel arfer i ddefnyddion gwasanaethau statudol. Maen nhw’n gallu bod yn hyblyg ac yn arloesol trwy ymgymryd a phrosiectau fyddai gwasanaethau statudol ddim yn gallu ymgymrud a nhw. Mae hyn gan amlaf yn arwain at ddeilliannau gwell o ganlyniad. Gan fod y trydydd sector yn darparu llawer o wasanaethau cyhoeddus sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, mae yma botensial i gyrff cyhoeddus gydweithio’n fwy creadigol gyda’y sector gwirfoddol i ymateb i’r holl bwysau sy’n bodoli heddiw.
Tim Staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Ddwyrain Cymru (Awaiting Welsh edition)


English