Tîm Lles Gogledd Ddwyrain Cymru
Mae tîm Lles yn FLVC ag AVOW yn cefnogi’r trydydd sector a’r partneriaid statudol mewn nifer o ffyrdd:
Strategaeth
- Hybu sefydliadau a gwasanaethau trydydd sector i bartneriaid statudol
- Cynrychioli’r trydydd sector mewn grwpiau cynllunio strategol a phartneriaeth
- Ymgysylltu â’r trydydd sector mewn ymgynghoriadau ac ymgysylltu am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
- Hybu gwaith partneriaeth yn y sector a sectorau eraill
Datblygu
- Gallwn helpu i gefnogi sefydliadau drwy roi cyngor, neu eu cyfeirio at gyngor, am ariannu, cefnogaeth a llywodraethu.
- Rydym yn cynnig hyfforddiant i fudiadau fedru gwella eu cyrhaeddiad a’u heffeithiolrwydd.
- Gallwn esbonio’r elfennau cymhleth sy’n gysylltiedig â chomisiynu a chaffael.
- Gallwn roi’r dystiolaeth ddiweddaraf i chi a’ch tywys drwy’r newidiadau yn strwythurau’r awdurdodau lleol a’r GIG.
- Gallwn eich helpu i gychwyn grwp cefnogi neu wasanaeth newydd
- Gallwn cefnogi’r trydydd sector ym Sir y Fflint a Wrecsam I ddefnyddio gwasanaethau FLVC ag AVOW
Cynnig Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
- Rydym yn gweithio ar y cyd â phartneriaid statudol i gynnig gwybodaeth a chyngor i’r cyhoedd ynghylch gwasanaethau a gweithgareddau’r trydydd sector
- Rydym yn codi ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol o waith y trydydd sector yn y meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a lles.
- Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid statudol i ddatblygu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor gan gynnwys y Pwynt Mynediad Unigol (SPoA) a Dewis


English