Cefnogaeth i unigolion (Un Pwynt Mynediad / Rhagnodi Cymdeithasol)
Mae modd i unrhyw un sy’n byw yn Sir y Fflint fanteisio ar wasanaeth Rhagnodi Cymdeithasol FLVC
Beth ydy Rhagnodi Cymdeithasol?
Ein tîm
Sut i gysylltu gyda ni
Taflen
Ieithoedd gwahanol
Ein harianwyr
Beth ydy Rhagnodi Cymdeithasol?
Gallwn fod o gymorth ichi gyda’r agweddau canlynol:
- Os ydych chi’n teimlo fel eich bod chi ar wahân yn y gymdeithas (does gennych chi neb i siarad gyda nhw)
- Os ydych chi’n dymuno gwella eich iechyd corfforol neu feddyliol
- Os ydych chi’n teimlo’n ddihyder
- Os ydych chi’n dymuno manteisio ar gefnogaeth a gwybodaeth ymarferol er mwyn gwella eich sefyllfa, a/neu sut rydych chi’n teimlo
Bydd ein tîm yn:
- Cydweithio gyda chi i ganfod gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol sydd o ddiddordeb ichi ac sy’n diwallu eich anghenion.
Ein Tîm
Rydym yn gyfeillgar, yn ofalgar ac yn barod i wrando heb eich barnu.
Sut i gysylltu gyda ni
|
|
Unigolion 18+ oed |
Pobl ifanc o dan 18 a’r rheiny sy’n chwilio am gefnogaeth gyda’u bywydau teuluol |
| Sut all rhagnodwr cymdeithasol eich helpu? |
Gallwn fod o gymorth ichi gyda’r canlynol:
Byddwn yn cydweithio gyda chi i ganfod gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol sydd o ddiddordeb ichi ac sy’n diwallu eich anghenion. |
Gallwn eich cynorthwyo gyda’r canlynol:
Byddwn yn cydweithio gyda chi i ganfod gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol sydd o ddiddordeb ichi ac sy’n diwallu eich anghenion. |
|
Sut ydw i’n cysylltu gyda chi?
|
Ffoniwch 03000 858 858 a gofynnwch am gael siarad gyda rhagnodwr cymdeithasol E-bost: support@flvc.rc1.amityweb.co.uk Gallwch gwblhau ffurflen ar-lein yma Gallwn siarad gyda chi, eich teulu, neu ffrind gyda’ch caniatâd chi. |
Ffoniwch 07780043811 neu anfonwch neges destun E-bost: hub@flvc.rc1.amityweb.co.uk Gallwch gwblhau ffurflen ar-lein yma Gallwn siarad gyda chi, eich teulu, neu ffrind gyda’ch caniatâd chi. |
| NEU Fe all unrhyw weithiwr proffesiynol, gyda’ch caniatâd chi, roi gwybod inni y gallwch chi elwa o’n cymorth ni drwy gwblhau’r ffurflen hon. Gall y person fod yn Feddyg Teulu, nyrs neu weithiwr cymdeithasol er enghraifft. |
||
Taflen
Ieithoedd Gwahanol
Os nad ydych chi’n siarad Cymraeg neu Saesneg ac mae angen cymorth arnoch chi yn eich iaith eich hun, gallwn fanteisio ar gyfieithydd. Anfonwch e-bost atom ni yn eich iaith eich hun ac fe wnawn ni gysylltu’n ôl gyda chi.
Arabic
إذا كنت لا تتحدث الإنجليزية أو الويلزية وتحتاج إلى مساعدة بلغتك ، فيمكننا الاستعانة بمترجم. يرجى مراسلتنا عبر البريد الإلكتروني بلغتك وسنكون على اتصال.
Polish
Jeśli nie mówisz po angielsku lub walijsku, a potrzebujesz pomocy w swoim języku, możemy skorzystać z pomocy tłumacza. Napisz do nas w swoim języku ojczystym, a my skontaktujemy się z Tobą.
Romanian
Dacă nu vorbiți limba engleză sau galeza și aveți nevoie de ajutor în limba dumneavoastră, putem folosi un traducător. Vă rugăm să ne trimiteți un email în limba dumneavoastră și vă vom contacta.
Turkish
İngilizce veya Galce bilmiyorsanız ve dil konusunda yardima ihtiyaciniz varsa, tercuman da kullanabiliriz. Lutfen bize kendi dilinizde email gonderin ve biz sizinle irtibata gececegiz.
Ein Harianwyr?
Mae ein rhagnodwyr cymdeithasol sy’n cynnig cefnogaeth i bobl dros 18 oed yn gweithio ar ran Un Pwynt Mynediad Cyngor Sir y Fflint. Mae ein rhagnodwyr cymdeithasol sy’n cynnig cefnogaeth i deuluoedd yn gweithio ar ran Hwb Help Cynnar Cyngor Sir y Fflint.
Rydym wedi ein hariannu drwy ein partneriaethau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y Gronfa Gofal Integredig, Cyngor Sir y Fflint a Teuluoedd yn Gyntaf.


English

